2017 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Parhawyd â bodolaeth Cyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau’r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn sy’n rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor neu’n gosod swyddogaethau ychwanegol arno. Yn unol â hynny, mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r Cyngor sy’n ymwneud ag achredu cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol ac â thynnu achrediad yn ôl (erthygl 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


 

2017 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017

Gwnaed                             14 Chwefror 2017

Yn dod i rym                      16 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Chwefror 2017.

(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014;

ystyr “y meini prawf achredu” (“the accreditation criteria”) yw’r meini prawf ar gyfer yr achrediad neu ar gyfer tynnu achrediad yn ôl a bennir gan Weinidogion Cymru o dan reoliadau a wneir o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002([2]).

Swyddogaethau ychwanegol

3.(1)(1) Mae’r Cyngor i gael y swyddogaethau o—

(a)     achredu cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Gwasanaeth”);

(b)     monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon â’r meini prawf achredu;

(c)     tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ôl; a

(d)     codi ffïoedd mewn cysylltiad â darparu’r Gwasanaeth.

(2) Ni chaiff y ffïoedd a godir gan y Cyngor yn unol â pharagraff (1)(d) fod yn fwy na chost darparu’r Gwasanaeth.

 

 

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

14 Chwefror 2017

 



([1])           2014 dccc 5.

([2])           2002 (p. 32) fel y’i diwygiwyd gan baragraff 19(1) a (2) o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) a chan baragraff 1(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.